Arolwg Gwneud Pleidleisiau yn 16 Gweithio yng Nghymru!

'Mae'r prosiect Making Votes-at-16 work in Wales am glywed barn pobl ifanc 16-18 oed am eu profiadau o etholiadau diweddar Cymru.  Mae'r prosiect yn cael ei gynnal gan ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Nottingham Trent, Lerpwl a Huddersfield gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed yn etholiadau Cymru.  Rydym am glywed barn pob person ifanc, p’un a wnaethoch chi bleidleisio yn yr etholiad ai peidio.  Mae ein harolwg byr ar gael yma. Dim ond 10-15 munud y dylai ei gymryd i chi ei gwblhau ac mae cyfle i chi ennill un o'n deg taleb £50 drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth ar ddiwedd yr arolwg.'

Neu dewch o hyd i'r arolwg yma:

Votes@16 Survey (qualtrics.com)

15/07/2021