Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn cynnal digwyddiad Pawb a'i Farn!

Cyfle i Gyngor Ieuenctid Ceredigion i ddweud eu barn!

Ar 13 Gorffennaf 2018, fe wnaeth Cyngor Ieuenctid Ceredigion gymryd drosodd Siambr y Cyngor i gynnal sesiwn trafodaeth gyntaf yng Ngheredigion, wedi’i drefnu a’i arwain gan Gyngor Ieuenctid Ceredigion. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i Gyngor Ieuenctid Ceredigion ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc i banel o bobl sy’n dylanwadu  a gwneud penderfyniadau.

Aelodau’r panel oedd Ben Lake AS; Sally Holland, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Cymru; Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys a Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Cafodd y digwyddiad ei agor a’i gau gan Beca Williams, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, ac yn arwain y digwyddiad oedd Wil Jac Rees, cyn Aelod Seneddol Ifanc Ceredigion. Cafodd nifer o gwestiynau eu paratoi a’u cyflwyno gan aelodau o’r Cyngor Ieuenctid. Roedd y cwestiynau yn tynnu sylw at faterion megis Trafnidiaeth, yr Iaith Gymraeg, Cwricwlwm Gydol Oes, Cefnogaeth i Bobl Ifanc LGBT+, Diogelwch ar-lein â Pleidleisio’n 16. Roedd yna gynrychiolwyr o bob Ysgol Uwchradd, Coleg Ceredigion â mudiadau ieuenctid yng Ngheredigion yn bresennol yn y gynulleidfa.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i fynegi eu lleisiau a’r cyfle i drafod materion a phynciau sy’n eu heffeithio. Dyma’r digwyddiad cyntaf o’r fath yng Ngheredigion, ac roedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn falch o gefnogi Cyngor Ieuenctid Ceredigion i gynnal y digwyddiad. Dymuna’r Gwasanaeth Ieuenctid ddiolch i’r Cyngor Ieuenctid am eu gwaith caled a’u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn, i gefnogi hawliau plant a phobl ifanc yng Ngheredigion.”

Dywedodd Beca Williams, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, “Fel Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i drafod nifer helaeth o bynciau llosg gyda phanel hynnod frwdfrydig a gwybodus. Roedd hi’n bleser i fod yn  rhan o drafodaeth aeddfed a chynhwysfawr am amryfal faterion sy’n effeithio ar ieuenctid ein sir heddiw. Buodd presenoldeb nifer fawr o bobl ifanc Ceredigion yn hwb enfawr i lwyddiant y digwyddiad.”

Dywedodd Ben Lake AS, “Roedd hi'n bleser cael y cyfle i ateb cwestiynau, gwrando ar farn a chymryd rhan mewn trafodaethau heriol gyda phobl ifanc Ceredigion yn y digwyddiad 'Pawb a'i Farn' yn ddiweddar. Mae Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn rhoi’r platfform haeddiannol i gynrychiolwyr ein hysgolion a’n mudiadau ieuenctid gael dweud eu dweud am y materion sy’n bwysig iddyn nhw ac mae'n galonogol i weld y mathau o bynciau gafodd eu codi gan ein pobl ifanc - o wasanaethau iechyd meddwl i ddiogelwch arlein, a'r iaith Gymraeg. Mae hi’n ddyletswydd ar wleidyddion a chynrychiolwyr etholedig i ymateb i ddyheadau a phryderon ein pobl ifanc, gan roi ystyriaeth teilwng i’r effaith allai unrhyw benderfyniadau a pholisiau gael ar ein cenhedlaeth ifanc."

13/07/2018