Etholwyd Thomas fel Aelod Seneddol Ifanc newydd Ceredigion

Ar 9 Ebrill 2019, etholwyd Thomas Kendall fel Aelod Seneddol Ifanc (ASI) newydd Ceredigion, gan Gyngor Ieuenctid y sir, i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU yn 2019-2020, gyda Huw Jones yn cael ei ethol fel dirprwy aelod Seneddol Ifanc a fydd yn cefnogi Thomas.

 

Mae Thomas Kendall yn astudio yng Ngholeg Ceredigion, Aberystwyth ac mae Huw Jones yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron ac yn cynrychioli CFFI Ceredigion. Cafwyd eu hethol gan Gyngor Ieuenctid i gymryd drosodd oddi wrth ASI presennol y sir, Esme Freeman, gan ei bod yn dod i ddiwedd ei chyfnod fel ASI.

 

Bydd Thomas a Huw yn cychwyn eu rôl newydd fel ASI a dirprwy ASI o fewn y misoedd nesaf, a byddant yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau a fydd yn gweithio lan at y ddadl fawr yn Llundain yn fis Tachwedd 2019, lle bydd dros 300 o aelodau ifanc yn ymgasglu yn Senedd y Tŷ’r Cyffredin i gymryd rhan yn y drafodaeth fawr flynyddol, sy’n cael ei gadeirio gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, y Gwir Anrhydeddus John Bercow AS.

 

Bydd cyfle i Thomas a Huw weithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion i gyflwyno ymgyrch ‘Make your Mark’ yng Ngheredigion, sef pleidlais genedlaethol sy’n pennu’r materion sy’n cael eu trafod yn y Tŷ Cyffredin. Yn y gorffennol, mae’r pynciau hyn wedi cynnwys materion megis, trafnidiaeth gyhoeddus sy’n hygyrch i bawb, amddiffyn hawliau pobl LGBT+, pleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed ym mhob etholiad cyhoeddus a chwricwlwm i'n paratoi ar gyfer bywyd.

 

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol gyda chyfrifoldeb dros Dysgu Gydol Oes a Diwylliant,“Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i fynegi eu lleisiau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol. Mae Senedd Ieuenctid y DU yn gyfle i San Steffan glywed lleisiau pobl ifanc yn trafod materion y maent yn teimlo fwyaf cryf amdanynt.”

 

“Rydym yn falch iawn o Thomas a Huw fel yr ASI a’r dirprwy ASI newydd i Geredigion, ac rydym yn dymuno pob lwc iddynt dros y flwyddyn nesaf yn y digwyddiadau paratoi, i Thomas yn y ddadl fawr yn Nhŷ’r Cyffredin â’r broses ymgyrchu yn dilyn y ddadl.”

 

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Pob blwyddyn, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gweithio mewn partneriaeth â Phlant yng Nghymru i gynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ifanc yng Ngheredigion i gael dweud eu barn ar faterion sy’n eu heffeithio.”

 

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu Thomas a Huw fel ein ASI a dirprwy ASI newydd ac yn edrych ymlaen i’w cefnogi i gael profiad gwerthfawr yn eu swyddi newydd. Rydym yn hyderus bod Thomas a Huw yn bobl ddelfrydol i’r rôl yma ac yn dymuno iddynt bob dymuniad da ar gyfer y flwyddyn i ddod.”

03/05/2019