Holiadur cenedlaethol i blant a phobl ifanc - ‘Coronafeirws a Fi’

Holiadur cenedlaethol i blant a phobl ifanc - ‘Coronafeirws a Fi’

Yn dilyn llwyddiant yr arolwg cyntaf o’i fath yng ngwledydd Prydain y llynedd, mae Comisiynydd Plant Cymru yn lansio ymarferiad gwrando arall heddiw, gan ofyn i blant a phobl ifanc Cymru am eu barn a’u safbwyntiau presennol ar effaith y pandemig ar wahanol elfennau o'u bywydau.

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid Cymru, cafwyd bron i 24,000 o ymatebion i'r arolwg cyntaf, a gafodd ei lansio ym mis Mai y llynedd, ac fe ddylanwadodd ei ganlyniadau ar benderfyniadau gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Wrth i'r cyfyngiadau barhau, mae'r Comisiynydd yn awyddus i glywed barn uniongyrchol plant a phobl ifanc ar themâu a materion allweddol gan gynnwys eu hiechyd a'u lles, addysg, yr effaith ar ochr gymdeithasol eu bywydau ac anghenion grwpiau penodol.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ‘Coronafeirws a Fi’ ar gael i Lywodraeth Cymru cyn yr adolygiad tair wythnos yng nghanol mis Chwefror, sy'n debygol o ystyried y camau nesaf o ran cyfyngiadau ar ysgolion, colegau, cyfleusterau chwaraeon a hamdden a rheolau ar gyfer ymgynnull yn gymdeithasol – mae pob un o'r rhain yn cael effaith enfawr ar fywydau plant a phobl ifanc.

Mae'r holiadur wedi cael ei ddatblygu a'i wirio gan blant a phobl ifanc.

Rydyn ni angen eich help er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc ar draws Cymru yn cael y cyfle i ddweud eu dweud.

Mae'n bwysig nodi bod yr holiadur yn helpu plant i gael help os ydy elfennau ohonno yn achosi iddyn nhw i boeni neu teimlo'n isel.

Gweler yr holiadur yma. Disgwylir iddo gymryd 15 munud i'w gwblhau ac mae’n bosib i'w wneud ar unrhyw ddyfais wrth ddilyn y ddolen.

Yn ychwanegol allwch rhannu eich barn gan ddilyn y ddolen yma:

www.complantcymru.org.uk/coronafeirwsafi

Bydd y ddolen ar agor am bythefnos ac yna’n cau ar y 29ain o Ionawr 2021.

21/01/2021