Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018!

Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018!

Bu Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid rhwng 23 a 30 Mehefin, sef wythnos sydd wedi’i chlustnodi ar gyfer dathlu Gwaith Ieuenctid ar draws Cymru gyfan.                                                                                                                                                           

Roedd gan y Gwasanaeth Ieuenctid arddangosfa yng Nghanolfan Rheidol ac yn y Senedd ym Mae Caerdydd i arddangos gwaith y bobl ifanc o Geredigion ynghyd â chynghorau eraill ar draws Cymru. Cynhaliodd y Gwasanaeth Ieuenctid digwyddiadau dathlu ar draws Clybiau Ieuenctid y Gwasanaeth yn ystod yr wythnos, rhannwyd blogiau a fideos ar eu tudalennau cymdeithasol yn ddyddiol, tynnwyd dros 100 o ‘selfies’ #WythnosGwaithIeuenctid, gyda phobl ifanc a chydweithwyr ar draws y Sir, cynhaliwyd noson agored yng Nghanolfan Ieuenctid Aberteifi a chrëwyd darn jigsô mawr a oedd yn cynrychioli yr hyn mae’r Gwaith Ieuenctid yn golygu i bobl ifanc yng Ngheredigion. Fe wnaeth y Gwasanaeth hefyd lansio eu tudalen Instagram newydd a’u ffilm hyrwyddo sy’n tynnu sylw at waith y Gwasanaeth.

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: "Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn rhoi cyfleoedd i Wasanaethau Ieuenctid ar draws Cymru ddathlu Gwaith Ieuenctid. Yma yng Ngheredigion, bob blwyddyn rydyn ni'n awyddus i hyrwyddo pwysigrwydd a gwerth Gwaith Ieuenctid o fewn y Sir. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 o oed mewn amryw o sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurffiol, trwy ddarpariaeth sydd wedi eu dargedu a darpariaeth agored. Mae Gwaith Ieuenctid yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu yn holistaidd, trwy weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad yn addysgol, personol a chymdeithasol. Mae hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle yn y gymdeithas ac yn eu cynorthwyo i gyrraedd eu llawn botensial. Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle delfrydol i godi proffil Gwaith Ieuenctid ac i ddathlu Pobl Ifanc, Gweithwyr Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid ledled Cymru."

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, “Roedd hi’n braf gweld cymaint o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u trefnu gan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Ngheredigion wythnos diwethaf. Mae Gwaith Ieuenctid yn cynnig cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc sy’n eu cefnogi nhw tra eu bod yn datblygu i fod yn  oedolion, ac yn aml yn linell gymorth i rai o’n ieuenctid ni. Felly mae hi’n hynod o bwysig ein bod ni’n cydnabod gwerth, pwysigrwydd ac yn dathlu gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid yn genedlaethol, ac mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle gwych i wneud hynny.”

30/06/2018