Dweud eich dweud: Gwneud eich Marc 2020!

Cofrestrwch a phleidleisiwch nawr!

PLEIDLAIS GWNEUD EICH MARC

Tachwedd 1af - Tachwedd 30ain

COFRESTRWCH NAWR

Bydd Pleidlais Gwneud Eich Marc Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn cael ei lansio ar 1 Tachwedd fel rhan o Wythnos Senedd y Deyrnas Unedig, a bydd yn parhau tan 30 Tachwedd. Mae’r Bleidlais hon, sy’n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig, yn rhoi cyfle i bobl ifanc 11-18 oed lunio rhestr fer o’r pynciau maen nhw’n meddwl sydd bwysicaf o ran beth mae pobl ifanc yn ei wynebu’n lleol ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd y pynciau’n cael eu cyhoeddi unwaith mae’r bleidlais wedi agor, a bydd y Pleidleisio’n agor trwy wefan wythnos Senedd y Deyrnas Unedig.

Rydyn ni’n annog pob person ifanc 11-18 oed ledled Cymru I bleidleisio’n uniongyrchol trwy’r wefan. Gallwch chi bleidleisio ar y pwnc rydych chi’n meddwl sydd bwysicaf ar draws y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ar bynciau sy’n bwysig i chi’n lleol.

Mae pleidleisio’n bwysig i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc ar draws Cymru yn cael eu clywed.

 

I wneud eich marc a phleidleisio, ewch i wefan wythnos Senedd y Deyrnas Unedig

WWW.UKPARLIAMENTWEEK.ORG

 

 

03/11/2020