Llwyddiant i Raglen Gweithgareddau Haf Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion!

 

Cyflwynwyd rhaglen haf cynhwysol o weithgareddau dros bedair wythnos o’r gwyliau'r haf gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Trefnwyd a chynhaliwyd gweithdai, gweithgareddau, teithiau, digwyddiadau a phrosiectau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed o bob rhan o'r sir.

 

Canolbwyntiodd darpariaeth eleni ar bynciau fel cyflogadwyedd ac uwchsgilio, iechyd a lles, cyfranogi, chwaraeon a hamdden a'r amgylchedd. Cafodd pobl ifanc gyfle i ddatblygu sgiliau newydd a’u sgiliau presennol megis hunan-barch, hyder, cyfathrebu a datrys problemau, i gyd mewn amgylcheddau anffurfiol, hwyliog lle roeddent yn gallu cwrdd â phobl newydd, ennill achrediad a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd.

 

Gethin Jones yw Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Dywedodd, “Eleni mae’r Rhaglen Haf wedi bod yn llwyddiant mawr eto, gyda dros 130 o bobl ifanc yn manteisio ar ddarpariaeth. Rydym wedi medru parhau i gynnig cyfleoedd agored a chyfleoedd targedol i bobl ifanc yn ystod gwyliau ysgol, yn ogystal ag yn ystod y tymor, fel bod cefnogaeth ac ymgysylltiad ar gael i bobl ifanc trwy gydol y flwyddyn. Yn aml gall gwyliau'r haf deimlo fel cyfnod hir o amser i lawer o bobl ifanc, felly mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u Gweithwyr Ieuenctid a'u ffrindiau. Roedd y rhaglen yn cynnig ystod o gyfleoedd gwych i bobl ifanc o bob rhan o'r sir gymryd rhan ynddynt.”

 

Roedd rhaglen yr haf eleni yn cynnwys diwrnodau gweithgaredd chwaraeon dŵr, gweithdai cyflogadwyedd ag uwchsgilio, beicio mynydd, gwersylla, preswyliau addysgol a theithiau dydd i leoedd gan gynnwys Blue Lagoon a pharc Oakwood.

 

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Dywedodd, “Mae'n gadarnhaol clywed bod y rhaglen digwyddiadau'r haf yn llwyddiant ac yn amlwg yn fuddiol i'n pobl ifanc dros gyfnod y gwyliau. Mae'n glod i Geredigion fod gennym wasanaeth ieuenctid o safon sy'n gynhwysol i bob person ifanc rhwng 11 a 25 oed. Gyda'r fath amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu darparu gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, mae rhywbeth at ddant pawb.”

01/09/2019