Dyddiad cau newydd!
Bwrsariaeth Pobl Ifanc Ceredigion 2021
Ydych chi'n 11-25 oed ac yn byw yng Ngheredigion ar hyn o bryd?
Oes angen cymorth ariannol arnoch i gyrraedd eich nodau?
A fyddech chi'n elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant/ offer sydd eu hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol?
Ydych chi'n chwilio am gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun?
Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau?
Beth bynnag yw eich nod, eleni rydym yn falch o roi cyfle i chi wneud cais am fwrsariaeth o uchafswm £1,000 a gaiff ei roi'n garedig gan
‘West Wales Holiday Cottages’!
Mae'r tîm yn ‘West Wales Holiday Cottages’ yn deall y gall fod yn anodd i bobl ifanc sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru gael y cyfle i wneud gwahaniaeth a goresgyn rhwystrau i ddilyn eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.
O ddiddordeb?
Dyma ffurflen cais y fwrsariaeth a dyna i gyd sydd angen i chi ei wneud yw esbonio ychydig amdanoch chi eich hun a beth rydych chi'n bwriadu ei wneud gyda'r fwrsariaeth!
Bydd eich cais wedyn yn mynd i Banel Fforwm Ieuenctid Ceredigion, a fydd yn dewis yr ymgeisydd(wyr) llwyddiannus adeg mis May 2021.
Dyddiad cau: 12yp dydd Llun 7fed o Fehefin 2021
Cysylltwch â youth@ceredigion.gov.uk am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gais.
16/03/2021