Newyddion diweddaraf Senedd Ieuenctid Cymru

Dyma ddiweddariad mwyaf diweddar am etholiad Senedd Ieuenctid Cymru.

  • Mae etholiad Senedd Ieuenctid Cymru bellach ar agor. Mae'n bosib i bobl ifanc bleidleisio hyd at 12pm ar 22 Tachwedd 2021 - https://seneddieuenctid.senedd.cymru/cymryd-rhan/etholiad/
  • Bydd unrhyw un a gofrestrodd i bleidleisio cyn 29 Hydref (gan gynnwys y rhai sy'n dal yn gymwys i bleidleisio ar ôl etholiad 2018) wedi derbyn eu cod pleidleisio unigryw trwy e-bost ar 1 Tachwedd.
  • Bydd unrhyw un sy'n cofrestru i bleidleisio rhwng 30 Hydref - 12 Tachwedd yn derbyn eu cod pleidleisio unigryw ar 15 Tachwedd 2021.

15/11/2021