Disgyblion yn creu Ffilm i diogelwch Snapchat!

Ffilm diogelwch ar Snapchat yn ennill gwobr cenedlaethol ym Mae Caerdydd!

Enillodd ffilm fer a grëwyd gan ddisgyblion drama Blwyddyn 12 Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yr ail wobr mewn cystadleuaeth genedlaethol.

Mae’r ffilm fer, sy’n ffocysu ar godi ymwybyddiaeth ar ddiogelwch ar-lein rhwng pobl ifanc, ac yn amlygu ac annog trafodaeth am y risgiau yn ymwneud â’r camddefnydd o Snapchat yn benodol. Hwyluswyd y prosiect gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Cafodd y ffilm ei ddanfon mewn i gystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018, sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru. Thema’r gystadleuaeth eleni oedd ‘Creu, cysylltu a rhannu parch’. Gofynnodd y gystadleuaeth i blant a phobl ifanc Cymru i fynegi eu teimladau am sut mae bod ar-lein yn eu gwneud i deimlo drwy eiriau, celf, ffilm neu gerddoriaeth.

Yn dilyn proses beirniadu drylwyr, mi wnaeth y ffilm gyrraedd rownd fuddugol y gystadleuaeth. Derbyniodd y criw wahoddiad i fynychu digwyddiad Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018, y cynhalir gan Lywodraeth Cymru, South West Grid for Learning a UK Safer Internet Centre yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd ar Ddydd Mawrth 6 Chwefror 2018. Cafwyd llwyddiant gyda’r ffilm yn derbyn yr ail wobr yn y categori Uwchradd, wrth iddo gael ei ddewis allan o 300 o geisiadau ar draws Gymru. Cyflwynodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y wobr i’r disgyblion, a bydd yn cael eu harddangos yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

 

07/02/2018