Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cymryd rhan mewn Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Rhyngwladol yn yr Eidal!

Bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cymryd rhan mewn Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Rhyngwladol yn yr Eidal, gyda Grwpiau Ieuenctid eraill o Wlad Pwyl, Sbaen, Malta a’r Eidal. Ymunodd y grŵp â 32 o bobl ifanc eraill rhwng 14-17 oed a 8 Gweithiwr Ieuenctid o’r Eidal, Sbaen, Malta a Gwlad Pwyl rhwng yr 19 – 26 o Awst 2018.

Enw’r prosiect am yr wythnos gyfan, oedd ‘Allan o’r Bocs’ ac roedd yn canolbwyntio ar y thema o fewnfudo ac integreiddio. Roedd y prosiect yn ffocysu ar themâu megis hunaniaeth, gwahaniaethau diwylliannol, stereoteipiau a rhagfarnu, mudo a deialog adeiladol a hynny drwy gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol, dadansoddi syniadau, chwarae rôl a gemau tîm. Roedd y prosiect yn gyfle gwych i grŵp o bobl ifanc o Geredigion i adeiladu cyfeillgarwch gydag eraill o wledydd eraill ar draws Ewrop.

Cafodd y prosiect ei gynnal gan Fudiad Ieuenctid Eidalaidd o’r enw Associazione Giovaninsieme, a chafodd ei ariannu gan Erasmus+. Digwyddir y prosiect mewn tref mynyddig yng Nogledd Orllewin yr Eidal sef Torgnon, ac yna yn Turin, Gogledd yr Eidal.

Cafodd wyth person ifanc y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect rhyngwladol yma eleni. Molly Isherwood (Cyngor Ieuenctid Ceredigion), Caredig Ap Tomos (Cyngor Ieuenctid Ceredigion), Seren Williams (Cyngor Ieuenctid Ceredigion), Dyfan Hunt (Clwb Ieuenctid Penparcau), Matthew Howe (Clwb Ieuenctid Aberteifi), Thomas Evans (Gwirfoddolwr Ifanc), Chloe Toose (Clwb Ieuenctid Aberaeron) and Neide Willis (Clwb Ieuenctid Aberaeron).

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid, "Roedd yr ymweliad cyfnewid rhyngwladol eleni yn brofiad gwych i griw o bobl ifanc o Geredigion am amryw o resymau. Syniad y prosiect oedd canolbwyntio ar fewnfudo, ond roedd y prosiect ar y cyfan yn gyfle i bobl ifanc ar draws y byd i adeiladu cyfeillgarwch gydag eraill, chwalu rhwystrau a dod i nabod ei gilydd. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd yna deimlad go iawn bod y bobl ifanc wedi integreiddio gyda’i gilydd, ac mi roedd criw Ceredigion yn drist iawn yn gadael ar ddiwedd yr wythnos. Rydym yn hyderus bod pob unigolyn wedi datblygu sgiliau newydd, datblygu eu dealltwriaeth o fewnfudo ac wedi cael cyfleoedd newydd y byddant yn aros gyda nhw am byth.”

Dyma sylwadau rhai o gyfranogwyr y prosiect “Roedd y gweithgareddau yn hwyl ac yn ddiddorol” ac “Prosiect hynod o ddiddorol a oedd yn fy annog i feddwl yn ysgogol am mewnfudo ac integreiddio. Byddaf yn cario ac yn gwerthfawrogi’r profiadau y ddysgais yn ystor yr wythnos am amser hir iawn!”

05/09/2018