Bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cydlynu ac yn cymryd rhan mewn Prosiect Syrffio wyth wythnos, mewn partneriaeth ag Ysgol Syrffio Walkin’ on Water, dros yr Haf.
Roedd y prosiect wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 11-16 oed gyda’r bwriad o ddatblygu eu hunan hyder a lleihau eu pryderon, wrth gynnig cyfleoedd syrffio mewn awyrgylch ddiogel, hwyliog a hamddenol, gyda hyfforddwyr profiadol.
Cafodd chwe pherson ifanc o Ysgol Uwchradd Aberteifi, eu dewis i fod yn rhan o’r prosiect eleni. Noder pob person ifanc cynnydd yn eu hunan barch a’u hunan hyder o ganlyniad i’r prosiect yma. Disgrifiodd rhai o’r cyfranogwyr y prosiect fel, “cyfle anhygoel!” a “mae bod ar y môr yn fy ngwneud i’n hapus.”
Roedd y prosiect yn rhad ac am ddim i’r bobl ifanc a chafodd ei ariannu gan elusen Plant Mewn Angen. Darparwyd yr holl gyfarpar am ddim gan yr Ysgol Syrffio a chafodd cludiant i’r cyfranogwyr ei ddarparu gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion.
Dywedodd Gavin Witte, Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol, “Roedd y Prosiect Syrffio, y cyntaf o’r fath i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, mewn partneriaeth ag Ysgol Syrffio ‘Walkin’ on Water’, ac yn llwyddiant mawr. Rwy’n hapus iawn gyda llwyddiant y prosiect, ac roedd yn wych gweld datblygiad mewn hunan hyder, hunan barch a holl sgiliau eraill pob unigolyn drwy fod ar y dŵr ac wrth ddysgu i syrffio. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ysgol Syrffio ‘Walkin’ on Water’ ac i Blant Mewn Angen am alluogi ni i gynnig y cyfle hwn a chynnal prosiect o’r fath. Rydym yn gobeithio medru cynnig prosiectau tebyg i bobl ifanc ar draws y sir yn y dyfodol agos.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Da iawn i’r holl bobl ifanc a wnaeth cymryd rhan yn y cyfle yma i fynd i’r dŵr ac i ddysgu syrffio gyda’i gilydd ar arfordir Ceredigion. Mae’n braf i glywed bod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi ymuno â sefydliadau partneriaid i gydlynu profiadau cadarnhaol fel hyn wrth elwa o’r profiad awyr agored gwych sydd gan ein sir i gynnig.”
04/09/2018