Yn fis Mawrth, wnaeth Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion cyflawni’r wobr arbennig Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Dim ond dau Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol arall sydd wedi ennill Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru hyd yma.
Yn 2017, dyfarnwyd y Wobr Efydd i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Yn gynnar yn 2019, symudwyd ymlaen i gyflawni’r Marc Ansawdd Arian, ac yn fuan ar ôl hynny, ym Mis Mawrth 2019, cafodd y gwasanaeth eu hasesu eto a dyfarnwyd y Wobr Aur iddynt.
Dywedodd Louise Atkin, yr Asesydd arweiniol a Chyfarwyddwr Atkin Associates, sut yr oedd y bod ei, "edmygedd arbennig o'r ffordd y mae'r gwasanaeth ieuenctid wedi tyfu a datblygu ers ennill y wobr Efydd yn 2017."
Nododd yr adroddiad terfynol fod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cynnig Gwaith Ieuenctid o ansawdd uchel ar draws 16 maes craidd, gan gynnwys; Cydnabod a Dathlu Cyflawniad a Chynnydd Pobl Ifanc, Rheoli Gwybodaeth a Partneriaethau ac Adnoddau.
Nododd yr adroddiad hefyd fod ‘ymroddiad a chreadigrwydd y tîm Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion cyfan yn rhoi pobl ifanc wrth wraidd Gwasanaeth Ieuenctid sy’n fywiog a chreadigol, ac sy'n cael ei werthfawrogi gan bobl ifanc sy'n cael eu cefnogi a'u herio i fod yn gadarnhaol a symud ymlaen yn eu bywydau.’
Nodwyd yr adroddiad bod ‘arweinyddiaeth a rheolaeth dda iawn o fewn y gwasanaeth, a bod partneriaethau yn gryfder arbennig, gydag aseswyr yn profi'r gefnogaeth fwyaf ledled Cymru gan wasanaethau a sefydliadau partner yn ystod eu cyfarfodydd ymweld. Roedd yr aseswyr yn teimlo bod diwylliant cryf o ddathlu cyflawniadau pobl ifanc ym mhob agwedd ar y gwasanaeth.’
Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Dysgu Gydol Oes a Diwylliant, "Mae cyflawni’r Marc Ansawdd Efydd, Arian ac Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn gyflawniad eithriadol i'r Gwasanaeth. Mae'n gydnabyddiaeth dda am ymrwymiad a gwaith caled y tîm wrth gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc, gan annog pob person ifanc i gyrraedd eu llawn botensial, da iawn i’r tîm cyfan. Mae'r wobr hon yn cadarnhau bod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd rhagorol i bobl ifanc bob blwyddyn.”
Lansiodd Llywodraeth Cymru y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ym mis Hydref 2015 i ddarparu asesiad cadarn, annibynnol, allanol o ansawdd a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwaith ieuenctid yng Nghymru
Ar 28 Mehefin 2019, caiff y Gwobrau Arian ac Aur eu cyflwyno i’r tîm gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol.
|
26/04/2019