Llwyddiant Bwrsari Pobl Ifanc 2018!

Yn ddiweddar, bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ddigon ffodus i dderbyn cynnig hael West Wales Holiday Cottages i gynorthwyo pobl ifanc â bwrsari arian parod.
 
Pwrpas y bwrsari oedd rhoi cyfle i bobl ifanc 11-25 oed wneud cais am £500, er mwyn helpu’u dyheadau i’r dyfodol. Derbyniwyd cyfanswm o 22 cais, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i syniadau am brosiectau, digwyddiadau cymunedol a cheisiadau hyfforddi. Anfonwyd y ceisiadau wedyn i Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sef panel o bobl ifanc sy’n hanu o bob cwr o Geredigion ac yn gwneud defnydd o Wasanaeth Ieuenctid y Sir. Cyfarfu aelodau'r Fforwm Ieuenctid yn ystod hanner tymor mis Chwefror gan dreulio sawl awr yn darllen ac yn trafod pob cais. Trwy ddefnyddio matrics sgorio, penderfynodd aelodau'r Fforwm Ieuenctid ddyfarnu'r bwrsari i ddau ymgeisydd llwyddiannus, am eu syniadau arloesol a'r effaith bosibl ar eu bywydau eu hunain ac ar fywydau pobl ifanc eraill yng Ngheredigion.
 
Paul Jones (£350). Roedd Paul am ddefnyddio'r grant i ymgymryd â  hyfforddiant pellach i ddarparu cyrsiau cymorth cyntaf i blant a phobl ifanc a hefyd, i helpu i brynu offer ar gyfer ei Grŵp Moch Daear a Grŵp Cadlanciau newydd yn Llanbedr Pont Steffan.
 
Corey-Jay Wells (£150). Roedd Corey am ddefnyddio'r bwrsari i helpu i lansio’i frand dillad ei hun ac i hyrwyddo Beicio Mynydd Lawr Llethr ymhellach trwy goetsio plant a phobl ifanc eraill.
 
Meddai’r Prif Swyddog Ieuenctid, Gethin Jones, “Rydym yn ddiolchgar ac yn werthfawrogol iawn i West Wales Holiday Cottages am gynnig y cyfle hwn i bobl ifanc yng Ngheredigion. Fel ni ein hunain, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod bod gan lawer o bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion gyfleoedd prin i gael hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd yr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Roedd yn wych gweld ansawdd a nifer y ceisiadau a ddaeth i law. Mae hyn yn dangos bod yna bobl ifanc hyderus yng Ngheredigion sydd wedi’u hysgogi a’u hysbrydoli i gipio cyfleoedd fel hyn. Roedd y cyfle hwn hefyd yn brofiad grymus iawn i aelodau o'r Fforwm Ieuenctid a oedd yn teimlo'n falch ac yn freintiedig i benderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus. Yn bendant, roedd y penderfyniad yn un anodd iawn i'w wneud, ond fel grŵp maen nhw wedi dewis y rhai y teimlent oedd yn ei haeddu.”

Bydd Paul a Corey yn cael eu gwahodd i fynychu Noson Wobrwyo Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Theatr Felin-fach ddydd Mawrth, 17 Ebrill, 4yp – 7yh, lle bydd West Wales Holiday Cottages yn cyflwyno’u bwrsarïau iddynt ynghyd â'r holl bobl ifanc eraill a fydd yn cael gwobrau amrywiol.

18/02/2018