Seremoni Wobrwyo blynyddol yn cydnabod dros 400 o bobl ifanc!

Ar nos Fawrth, 17 Ebrill, cafodd dros 400 o bobl ifanc a’u teuluoedd o bob cwr o Geredigion wahoddiad i fynych Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Roedd y noson yn gyfle i ddathlu a chydnabod cyflawniadau a llwyddiannau’r holl bobl ifanc sydd wedi ymgysylltu â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion (GIC) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd y gwobrau achrediadau a gyflwynwyd yn ystod y noson yn cynnwys: tystysgrifau Gwirfoddolwyr y Mileniwm (Agored Cymru) ac amryw o gyrsiau gwahanol megis celf a chrefft, chwaraeon, bywydau iach a dinasyddiaeth. Yn ogystal â rhain, roedd yna bum categori gwobrau arbennig sef: Ymgyrch y Flwyddyn, Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, Gwobr Cyflawniad Arbennig, Gwobr Ymgysylltu â’r Gymuned â Phrosiectau Gwaith Ieuenctid y Flwyddyn.

Dywedodd Gethin Jones, Prif Swyddog Ieuenctid i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’n destun balchder i’r Gwasanaeth Ieuenctid ac i Gyngor Sir Ceredigion bod dros 400 o bobl ifanc wedi ennill gwobrau drwy’r Gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae darpariaeth Gwaith Ieuenctid yn hynod o bwysig i ddatblygiad pobl ifanc ar eu taith mewn i oedolaeth. Mae ein clybiau ieuenctid, darpariaeth allgymorth, gwaith mewn ysgolion a’n rhaglenni gwyliau yn cynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ifanc fod yn rhan o rywbeth sy’n eu diddori ac yn eu cefnogi nhw. Mae’r nifer sydd wedi cyflawni gwobrau ac achrediadau eleni yn dystiolaeth hefyd o ymroddiad a brwdfrydedd ein pobl ifanc ni ac roedd yn bleser croesawu cymaint o’r bobl ifanc a’u teuluoedd i ddathlu gyda ni yn Theatr Felinfach. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt!”

Agorwyd y noson gan y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, Dechrau'n Deg a'r Tîm o amgylch y Teulu, a chafodd y noson ei arwain gan gyflwynydd BBC Radio Cymru, Geraint Lloyd. Y siaradwr gwadd oedd Wil Jac Rees, Aelod Seneddol Ifanc Ceredigion, a dangoswyd clipiau wrth Ben Lake AS ac Elin Jones AC. Cyflwynwyd y gwobrau gan y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion; a’r Cynghorydd Lynford Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, “Dymunaf longyfarch pob unigolyn sydd wedi derbyn gwobr neu gydnabyddiaeth drwy waith y Gwasanaeth Ieuenctid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd croesawi cynifer o bobl ifanc a’u teuluoedd i ddathlu yn y Seremoni yn fraint ac yn dystiolaeth o’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar draws y Sir yn ogystal ag agwedd brwdfrydig ieuenctid y Sir. Dymunaf yn dda i bob un ohonynt ar gyfer y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at eu gweld eto yn y Seremoni Wobrwyo blwyddyn nesaf!”

17/04/2018