Pwy ydym ni a beth ydym ni'n ei gynnig?

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gweithio gyda phobl ifanc ar ran Gwasanaethau Barhaus Cyngo Sir Ceredigion

Rydym yn wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored, i annog pobl ifanc i wireddu eu potensial yn llawn.

Gwaith Ieuenctid Mewn Ysgolion!

Mae gennym Weithwyr Ieuenctid ym mhob Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion, sy’n darparu cyngor, arweiniad a mentora i fobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol!

Gwaith Ieuenctid Allgymorth

Mae gennym Dîm Allgymorth dynodedig sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad i bobl ifanc rhwng 16-25 oed, sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant!

Clybiau Ieuenctid!

Mae gennym Glybiau Ieuenctid wythnosol ym Mhenparcau, Aberaeron ac Aberteifi. Cysylltwch am ddyddiau ac amseroedd!

Cyfranogiad!

Mae gennym Fforwm a Chyngor Ieuenctid yn y Sir, sy’n sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed!

Rhaglenni Gwyliau!

Rhaglenni Gweithgareddau sy’n llawn cyfleoedd amrywiol yn ystod holl wyliau’r ysgol!

Sesiynau Cyfoes & ABCh!

Rydym yn cynnig ystod eang o sesiynau addysgiadol i ysgolion, colegau a phrifysgolion, sy’n ffocysu ar les personol, emosiynol a chymdeithasol pobl ifanc!